DATGANIAD GAN BBC CYMRU WALES AM Reoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio)

Mae gan y BBC bolisi llym ar ysmygu, sy’n dal gwneuthurwyr rhaglenni’n gyfrifol am unrhyw achos o bortreadu ysmygu. Ni ellir byth gyfiawnhau hyrwyddo sigaréts, a dylid sicrhau bob amser bod rhesymau golygyddol cryf dros bortreadu ysmygu.

Pan fydd cynyrchiadau yn cael eu gwneud mewn lleoliadau dros y ffin yn Lloegr, lle ceir eithriad ar gyfer ffilmio dramâu, bydd y BBC bob amser yn dilyn yr arfer o gynnal asesiad risg ar y defnydd o sigaréts ac yn rheoli hynny’n ofalus, fel sy’n digwydd gydag unrhyw berygl arall. Bydd unrhyw achos o ysmygu yn cael ei drafod gyda’r cast ymhell ymlaen llaw er mwyn sicrhau nad oes neb byth yn cael ei roi mewn sefyllfa annheg. 

 

Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru yn ei gwneud yn amhosibl ffilmio sigarét sydd wedi’i chynnau fel rhan o olygfa. Mae hyn yn achosi problem i ddramâu cyfnod, sy’n aml yn cynnwys sigaréts fel un o ffeithiau bywyd y cyfnod. Mae’n anodd iawn cyfleu moment emosiynol fawr yn gywir mewn siot agos, gan nad yw sigaréts ffug na CGI yn creu effaith ddilys.

Mae’r ddeddfwriaeth wedi effeithio ar ein penderfyniad i ffilmio dros y ffin, er enghraifft ym Mryste ar gyfer golygfeydd yn Upstairs Downstairs mewn cylch bocsio yn y 1930au, a set parti mawr yn y Royal Albert Hall (er iddo gael ei ffilmio mewn lleoliad gwahanol). Byddai ffilmio’r golygfeydd mawr hyn heb ddangos neb yn ysmygu sigaréts, a oedd yn weithgaredd cymdeithasol mor gyffredin yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi gwneud y cynhyrchiad yn llai credadwy.

Pan rydym yn portreadu ysmygu yn nramâu'r BBC, nid ydym byth yn ceisio ‘glamoreiddio’ ysmygu – ac yn aml, rydym yn ceisio gwneud y gwrthwyneb i hynny.   Yn Sherlock, a gafodd ei ffilmio yng Nghymru yn bennaf gan Hartswood Films ar gyfer y BBC, mae’n rhaid i’r prif gymeriad fod yn ysmygwr er mwyn aros yn driw i’r cymeriad eiconig a grëwyd gan Conan Doyle, ond mae’r naratif wedi cyfeirio at y ffaith ei fod yn gwrthwynebu’r arfer, yn ogystal â’i ymdrechion i roi’r gorau iddi.

Yn Casualty, roedd cynlluniau i ddefnyddio ysmygu fel testun stori foesol, gydag ysmygwr mewn ystafell gwesty yn achosi tân, a dyna oedd y brif stori ym mhlot un bennod. Fodd bynnag, oherwydd y ddeddfwriaeth bresennol roedd yn rhy anodd ystyried ffilmio’r golygfeydd o fewn cyllideb ac amserlen y cynhyrchiad. Felly bu'n rhaid i stori gref, a fyddai wedi tynnu sylw at un o beryglon ysmygu, gael ei newid i rywbeth arall.

Byddai cynyrchiadau eraill sydd â chysylltiadau cryf â BBC Wales wedi methu cael eu ffilmio yng Nghymru o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Roedd A Room At the Top a Parade's End yn ddwy ddrama gyfnod lle’r oedd rhaid cynnwys cryn dipyn o ysmygu er mwyn aros yn driw i'r cyfnod.

Cyn y Nadolig, cyhoeddodd BBC Cymru Wales eu bod yn comisiynu drama newydd ar gyfer BBC ONE. Mae The Game, sydd wedi cael ei hysgrifennu a’i chreu gan Toby Whitehouse (Being Human), yn gyfres chwe rhan gyffrous sydd wedi’i lleoli ym myd ysbïo’r 1970au. Mae manylion y lleoliad ffilmio yn dal i gael eu trafod, ac oherwydd y cyfnod a’r pwnc dan sylw, mae’n debygol y bydd y gyfres yn cynnwys ysmygu ffuglennol. Yn yr achos hwn gallai'r penderfyniad ar leoliad y gwaith ffilmio fynd y naill ffordd neu’r llall, a gallai’r ddeddfwriaeth ysmygu bresennol yng Nghymru effeithio ar y penderfyniad terfynol.

Pe byddai eithriad i’r gwaharddiad ysmygu yn cael ei gyflwyno ar gyfer setiau cynhyrchu dramâu a ffilmiau yng Nghymru, rydym wedi meddwl yn ofalus sut y byddem yn ymateb i hynny. Hoffem amlinellu’r prif gamau y byddem yn eu cymryd i sicrhau bod ysmygu ar y set yn digwydd cyn lleied â phosibl ar ôl i eithriad o’r fath gael ei gyflwyno.

·         Wrth gynllunio unrhyw waith ffilmio ar gyfer drama, byddwn bob amser yn ymrwymo i ystyried opsiynau eraill yn gyntaf yn hytrach nag ysmygu go iawn, fel defnyddio sigaréts ffug neu Ddelweddau wedi’u Cynhyrchu gan Gyfrifiadur (CGI). Mewn rhai cynyrchiadau, nid oes cymaint o angen bod yn gwbl gredadwy, a gallwn ddefnyddio’r opsiynau hyn yn yr achosion hyn.

·         Byddwn yn cyflwyno proses newydd yn BBC Cymru Wales lle byddai’n rhaid i’r gwaith o ffilmio unrhyw olygfa sy’n cynnwys ysmygu go iawn gael ei awdurdodi ymlaen llaw gan y Pennaeth Cynyrchiadau, sy’n aelod o Fwrdd Rheoli BBC Cymru Wales. Ni fyddai hyn yn cael ei awdurdodi oni bai y teimlid bod cyfiawnhad cryf dros ddefnyddio sigaréts go iawn.  

·         Byddem yn sicrhau bod y mesurau uchod yn berthnasol i unrhyw gynyrchiadau annibynnol y mae BBC Cymru Wales yn gyfrifol amdanynt.

Rydym am ddangos yn glir, petai'r eithriad yn cael ei basio, na fyddem yn mynd ati i bortreadu mwy o ysmygu yn ein dramâu. Unig ganlyniad eithriad o’r fath fyddai y byddai modd i olygfeydd sy’n cynnwys ysmygu go iawn gael eu ffilmio yng Nghymru, yn hytrach na Lloegr. 

Rydyn ni’n teimlo y byddai cyflwyno eithriad i’r gwaharddiad yn helpu i sicrhau y bydd hyd yn oed mwy o’r budd economaidd sy’n deillio o ddramâu yng Nghymru yn llifo i economi Cymru. Rydym yn pryderu y gallai’r gwaharddiad presennol gymell cynhyrchwyr dramâu'r BBC i beidio â gwneud rhai mathau o raglenni yng Nghymru. Mae penderfyniadau ynghylch ble i ffilmio drama ar gyfer y teledu yn gallu mynd y naill ffordd neu'r llall yn aml, ac mae perygl y gallai'r gwaharddiad arwain y penderfyniad i'r cyfeiriad anghywir.